|
Croeso i wefan y Gwasanaeth Ieuenctid. Ar hon cewch wybodaeth am
yr holl wasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc ar draws y sir.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Waith Ieuenctid ym Mhowys. Lansiwyd
“Ymestyn Hawliau” yng Nghymru, datblygwyd Partneriaethau Pobl Ifanc
a chafwyd cadarnhad o sail statudol i’r Gwasanaeth Ieuenctid.
Ers 1999 a chyflwyno strategaeth gwasanaethau ieuenctid Powys,
“Gwaith Ieuenctid ar gyfer yr 21ain Ganrif”, rydym wedi bod yn ad-drefnu’n
gwasanaeth, recriwtio a hyfforddi staff newydd, datblygu ein partneriaethau
gyda’r sector gwirfoddol, diweddaru ein systemau casglu data a gweithio
i sefydlu’r gwasanaeth ieuenctid ym Mhowys fel gwasanaeth cefnogi,
proffesiynol, uchel ei barch, ac o ansawdd da i bobl ifanc.
Yn awr mae gennym dîm o staff medrus, ymroddedig amser llawn a
rhan amser sydd yn abl i ymateb i agenda newydd y llywodraeth a
chefnogi pobl ifanc i gael gafael ar eu “10 Hawl”.
Chris Jones
Uwch Reolwr y Gwasanaeth Ieuenctid
 |
| Pobl ifanc yw dyfodol
ein sir a'n cenedl. Mae Cyngor Sir Powys yn rhoi'r flaenoriaeth
uchaf i iechyd a lles pobl ac mae anghenion yr ifanc wrth
galon ein strategaethau cymunedol.
Drwy ei wasanaeth ieuenctid, gweithio mewn partneriaeth
ag asiantaethau eraill a'n cymunedau, mae Cyngor Sir
Powys yn benderfynol o ddarparu ystod o gyfleoedd ansawdd
da mor eang â phosibl i holl bobl ifanc y sir, beth
bynnag fo'u hoedran, rhyw neu allu.
Y Cynghorydd James Gibson Watt
Cynghorydd Portffolio Ieuenctid ac Ymestyn Hawliau |
|
Y Gwasanaeth Ieunectid ym Mhowys
Mae Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru
yn dweud fod Pobl Ifanc yng Nghymru i gael cyfleoedd Addysgol,
Cyfranogol, sy’n Galluogi, ac yn llawn Mynegiant. Cyflwynir
y cwricwlwm ym Mhowys mewn amrywiaeth eang o leoliadau,
drwy ddefnyddio nifer o wahanol weithgareddau sydd yn helpu
i gynnwys pobl ifanc ar bob lefel wahanol.
|
 |
 |
Mae Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio gyda phobl
ifanc i’w galluogi i ddeall a gweithredu eu hawliau a’u cyfrifoldebau.
Drwy weithio gyda’i gilydd, maent yn cyflwyno delwedd gadarnhaol
o bobl ifanc i eraill drwy broses sydd yn eu hannog i wneud
eu penderfyniadau eu hunain, mewn modd sydd yn hwyl ac yn
gosod her.
Mae’r berthynas rhwng gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc yn
cael ei seilio ar ymddiriedaeth, gonestrwydd ac ansawdd.
|
Cliciwch Yma i weld beth sydd gan y Gwasanaeth Ieuenctid
i gynnig yn eich ardal chi!
|