Addysg Oedolion Ewch i'r tudalennau Addysg Oedolion i edrych
ar y llawlyfr cyrsiau neu i'w lwytho i lawr ar ffurf ffeil .pdf.
Cewch weld dyddiadau'r tymor, ffioedd a sut i gofrestru..
Ydych chi eisiau dysgu am gyfrifiaduron, seryddiaeth neu efallai bod
celf neu arddio yn fwy at eich dant. Mae gennym y gallu yn awr i chwilio
am amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael drwy Bowys. Chwiliwch yn ôl
ardal neu yn ôl gair allweddol ar gyfer pwnc cwrs. Unwaith y byddwch
wedi dod o hyd i gwrs y byddech yn hoffi ymuno ag ef, gallwch argraffu
ffurflen gofrestru sydd wedi ei hanner lenwi yn barod. Felly, fuodd hi
erioed mor hawdd i ymuno â chwrs newydd!
Darparu a hybu mynediad at Ddysgu Gydol Oes trwy
Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i holl ddinasyddion Powys gan
dargedu'n neilltuol y rheini sy'n profi rhwystrau dysgu.
Cliciwch
yma i weld mwy am Archifau Cyfeillion Powys (aelodaeth am ddim) a'u
rhaglen o sgyrsiau a gweithdai am ddim am bynciau sy'n amrywio o “Defnyddio'r
We i ymchwilio achau eich teulu” i“Hanes Cwm Elan”.
Mae Archifau Powys yn cynnig ystod o ddeunyddiau a gwasanaethau, a gallwch
weld y manylion ar eu gwefan ar http://archives.powys.gov.uk.
Hefyd, cewch gysylltiadau i ‘Hanes Digidol Powys’, ‘Prosiect
Diwrnod ym Mywyd...Powys’ a ‘Chwech o Gymunedau Powys Arlein’.
Felly, os ydych angen deunydd ar gyfer cwrs yr ydych yn ei astudio neu
os oes gennych ddiddordeb mewn hanes lleol, edrychwch ar y safle am fwy
o wybodaeth.