Home > Cymraeg > Arts > index.php

  Celfyddydau & Diwylliant

 

Strategaeth Gelfyddydau i Bowys

Mae'r ail ymgynghoriad am Strategaeth Gelfyddydau i Bowys yn awr wedi cau. Bydd gwybodaeth bellach ar gael maes o law.

Gallwch lwytho copi o'r strategaeth i lawr o wefan Celfyddydau Powys www.ecr.powys.gov.uk/arts/strategy

Y Cynghorydd Gareth Morgan yw Cadeirydd Gweithgor Strategaeth Gelfyddydau'r Cyngor, sydd yn cynnwys Cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y sector celfyddydau. Dywedodd ef:

"Mae'r celfyddydau yn ffactor mor bwysig yn ansawdd bywyd pobl ac yn cael eu cydnabod yn gynyddol am y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn yr economi leol."

"Ar y cyfan, nid y Cyngor yw darparwr uniongyrchol gweithgareddau celfyddydol ond mae'n rhoi cymorth ariannol i fudiadau celfyddydol fel Theatr Brycheiniog, Canolfan Celfyddydau Gwy ac Oriel Davies yn ogystal â gwyliau, digwyddiadau lleol a llu o grwpiau celfyddydol eraill, i ddarparu cyfleoedd i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau'r celfyddydau."

"Wrth ddatblygu'r strategaeth hon rydym eisiau sicrhau ein bod yn defnyddio'r arian sydd gennym yn y modd mwyaf manteisiol i hybu'r celfyddydau ," ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael i'w gweld a'i llwytho i lawr ar Wefan AEC. Gallwch adael eich sylwadau ar y safle hefyd. Cliciwch yma am:: Gwefan AEC.

 

CYSYLLTIADAU

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Louise Ingham

Ffôn : 01597 827686
arts.strategy@powys.gov.uk


Eich sylwadau, os gwelwch yn dda
Os ydych eisiau ateb, yna cofiwch roi eich cyfeiriad e bost. Diolch yn fawr.


Warning: main(../feedback/form.php): failed to open stream: No such file or directory in /home/educat/public_html/education.powys.gov.uk/cymraeg/arts/index.php on line 103

Warning: main(): Failed opening '../feedback/form.php' for inclusion (include_path='.:/usr/local/lib/php') in /home/educat/public_html/education.powys.gov.uk/cymraeg/arts/index.php on line 103

         


Diweddarwyd: 24/10/06       E-Bost Gwefeistr